Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 2 Rhagfyr 2021
Amser:
09.02 -
15.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12508
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) Ken Skates AS James Evans AS Siân Gwenllian AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
David Jones, Cymwysterau Cymru Philip Blaker, Cymwysterau Cymru Professor Elizabeth Treasure, Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Maria Hinfelaar, Vice-Chancellor, Glyndŵr University, Prifysgol Glyndŵr Amanda Wilkinson, Director, Universities Wales, Prifysgolion Cymru Marian Wyn Jones, Cadeiryddion Prifysgolion Cymru Lynn Williams, Chairs of Universities Wales (ChUW) Maxine Penlington, Cadeiryddion Prifysgolion Cymru Louise Casella, Y Brifysgol Agored yng Nghymru Cerith Rhys Jones, Y Brifysgol Agored yng Nghymru Guy Lacey, Coleg Gwent Dafydd Evans, Colegau Cymru Dr Rachel Bowen, Colegau Cymru Sharon Davies, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Becky Ricketts, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Joe Atkinson, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg Gwenllian Griffiths, Coleg Cymraeg Ceneldaethol Dr Ioan Matthews, Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Phil Boshier (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Nododd y Cadeirydd y byddai Sioned Williams AS yn dirprwyo ar ran Siân Gwenllian AS ar gyfer eitemau 5 i 11.
2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru ar gyfer 2020 – 2021
2.1 Bu'r
Pwyllgor yn craffu ar Cymwysterau Cymru ar ei adroddiad
blynyddol.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf
3.1 Derbyniwyd y
cynnig.
4 Craffu ar adroddiad blynyddol Cymwysterau Cymru ar gyfer 2020 - 2021 – trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
5 Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 3
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Prifysgolion Cymru, Cadeiryddion Prifysgolion Cymru a'r Brifysgol Agored.
5.2 Cytunodd Prifysgolion Cymru i ddarparu gwybodaeth bellach ar:
- sut mae Cytundebau Canlyniadau wedi gweithio mewn gwledydd eraill;
- yr 'eithriadau' yn y Bil i Weinidogion Cymru ddarparu cyllid a chyfarwyddyd ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg;
- trefniadau llywodraethu yn y prifysgolion a diogelu dysgwyr;
- effaith bosibl
Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 ar weithredu'r
Bil.
6 Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 4
6.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr ColegauCymru a Chymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru.
7 Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 5
7.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr UMC Cymru.
8 Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 6
8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg a chynrychiolwyr o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
8.2 Datganodd Comisiynydd y Gymraeg fod ei wraig yn gweithio yn y sector AB a’i bod yn Gadeirydd dros dro ar hyn o bryd ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
9 Papurau i'w nodi
9.1 Cafodd y papurau eu nodi.
10 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
10.1 Derbyniwyd
y cynnig.
11 Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law yn y sesiwn flaenorol
11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.